Y Comisiwn dros Gydraddoldeb Hiliol (CGH))
Mae’r Comisiwn wedi cynhyrchu dau gôd ymarfer, y ddau yn statudol, ar gyfer sectorau llety ar rent a di rent (perchennog preswyl) Maent yn disgrifio canllawiau manwl ar y Ddeddfwriaeth Cydraddoldeb Hiliol, yn darparu enghreifftiau o ymarfer da ym mhob maes, ac yn cynnwys argymhellion ar gyfer landlordiaid a darparwyr tai ar gyfer addasu yng nghyswllt amgylchiadau neilltuol.
Dros y blynyddoedd diweddar mae llawer o sefydliadau sy’n gyfrifol am ddarparu tai wedi dechrau sefydlu systemau a ddylai gynorthwyo i atal gwahaniaethu. Heblaw am asiantaethau unigol rhoddwyd arweiniad gan asiantaethau cenedlaethol megis cymdeithasau awdurdodau lleol, Cymdeithasau Ffederasiwn Cenedlaethol Tai a Chorfforaeth Tai. Datblygwyd polisïau a ddylai, os y’i gweithredir yn gywir, rwystro gwahaniaethu yn erbyn lleiafrifoedd ethnig.
Mae tri llwybr posibl wrth chwilio am lety ar rent
Bydd yn wahanol, yn dibynnu ar ble yr ydych yn byw , os ydych yn adnabod eich landlord a bod gennych broblem yna dilynwch y cysylltiadau priodol os gwelwch yn dda. Os oes gennych broblem gyda Landlord Preifat yna fe ddylai eich Canolfan Gynghori lleol eich cyfeirio at y sefydliad cywir.
Os ydych yn chwilio am lety yna efallai y bydd angen i chi gysylltu â’r Awdurdod Lleol a/neu'r Gymdeithas Tai. Cofiwch, yn dibynnu ar ble yr ydych yn byw , mae rhai Cymdeithasau Tai yn croesi ffiniau Awdurdod Lleol.
Ymgeisio am Landlord Cymdeithasol Cofrestredig(LCC)/Cymdeithas Tai
.
Mae’r canlynol yn gysylltiadau i wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru ac yn rhoi gwybodaeth am y strategaeth gyfan ar gyfer rhentu tai yng Nghymru.
Os ydych yn gwybod eich bod angen siarad â Chymdeithas Tai cliciwch ar y pwynt cyswllt yma ac fe fydd yn mynd â chi yn uniongyrchol at dudalen groeso NWREP. Partneriaeth rhwng Cymdeithasau Tai Gogledd Cymru yw NWREP. Os ydych yn gwybod pa Gymdeithas Tai sydd yn eich ardal chi yna cysylltwch yn uniongyrchol â’r canlynol.
Gwneud Cais am Dai Awdurdod Lleol
Mae’r canlynol yn gysylltiadau i wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru ac yn rhoi gwybodaeth am y strategaeth gyfan ar gyfer rhentu tai yng Nghymru
I wneud cais am dai awdurdod lleol yn eich ardal cliciwch ar Tai a dilynwch y cysylltiadau.
Am y tro cyntaf mae gan Gymru ei Ombwdsman ei hun sy’n cyfuno'r cyfrifoldeb am holl Wasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru yn cynnwys Tai Cymdeithasol a chwynion ynglyn â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ( cymdeithasau tai) Cliciwch ar y pwynt cyswllt uchod neu e-bost ask@ombudsman.org.uk