Sut y Gallwn Helpu? - Ffynonellau Cymorth – Iechyd

Mae sicrhau mynediad at wasanaethau iechyd a gofal a chyfleoedd gwaith yn gyfrifoldeb sylfaenol yr Adran Iechyd.

Cynlluniwyd yr adran yma i ddarparu gwybodaeth ar sut y mae'r System Iechyd yn gweithredu yng ngogledd Cymru a sut i gysylltu â’ch asiantaeth iechyd leol.

Sut mae’r GIC yn cael ei drefnu

Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n gyfrifol am gyfarwyddyd polisi a dyrannu arian i’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol (GIC) yng Nghymru

Mae pedair Ymddiriedolaeth CIG yng Ngogledd Cymru.

Oddi fewn i bob un o’r Ymddiriedolaethau Iechyd hyn mae Bwrdd Iechyd Lleol. Mae i bob Bwrdd Iechyd Lleol fwrdd gwneud penderfyniadau sy’n cynnwys doctoriaid lleol, nyrs, pobl iechyd proffesiynol eraill, aelodau’r cyngor lleol a sefydliadau gwirfoddol ac eraill i gynrychioli llais y cleifion. Mae ganddynt hefyd dîm gweithredol bychan i roi penderfyniadau ar waith a darparu gwasanaethau i’r cyhoedd.

Mae’r GIC yng Nghymru yn darparu 4 lefel o ofal:

* Gofal Cychwynnol – darparir hwn gan ddoctoriaid teuluol, optegwyr, deintyddion, fferyllwyr a phobl broffesiynol eraill ym maes iechyd. Gellir dod o hyd i gysylltiadau ar gyfer gofal cychwynnol ar Cysylltiadau Cyfeiriadur y CIG

cliciwch ar eich ardal awdurdod lleol, yna ar feddygfeydd y Meddygon Lleol yn yr adnodd chwilio, bydd hyn yn rhoi rhestr o feddygfeydd yn eich ardal.

** Gofal Eilaidd – - mae hwn yn rhoi gofal mwy arbenigol trwy wasanaethau ambiwlans ac ysbytai cliciwch yma ar gyfer gwybodaeth cysylltu.

**Gofal Trydyddol - a ddarperir trwy ysbytai arbenigol yn ymdrin â mathau penodol o salwch megis canser cliciwch yma ar gyfer gwybodaeth cysylltu.

Gofal Cymunedol - a ddarperir gan CIG mewn partneriaeth â gwasanaethau cymdeithasol lleol i helpu pobl hawdd ei niweidio, megis yr henoed, neu bobl gydag anableddau i fyw yn eu cartrefi ei hunain yn hytrach na sefydliadau.

*Mae Gwasanaethau Iechyd eraill yn cael eu darparu gan Ymddiriedolaethau CIG yn gyffredinol.

**Dylai dehonglwyr a gweithwyr cyswllt gael eu cyflogi gan yr awdurdod iechyd , a chael swydd ddisgrifiadau addas a chyfleoedd gyrfa. Gallwch ofyn am y gefnogaeth yma.

Erledigaeth Hiliol

Os ydych yn teimlo y gwahaniaethir yn eich erbyn neu eich bod yn cael eich trin yn annheg oherwydd eich hil, lliw, cenedligrwydd (yn cynnwys dinasyddiaeth) a tharddiad ethnig neu genedlaethol dylech roi gwybod amdano.

  • Mae erledigaeth hiliol yn drosedd difrifol ac mae yn digwydd yn y sector gofal iechyd.
  • Mae erledigaeth hiliol yn cynnwys nid yn unig ymosodiadau corfforol yn erbyn pobl ond hefyd camdriniaeth eiriol ac unrhyw ffurf o ymddygiad sy’n rhwystro pobl rhag defnyddio gwasanaethau gofal iechyd cychwynnol.

Yn gyffelyb, dylai MT a darparwyr gwasanaethau gofal iechyd cychwynnol fod yn ymwybodol o’r posibilrwydd y gallasai straen a chyflyrau penodol eraill gael eu hachosi gan erledigaeth hiliol.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am hyn:

Gwneud cwynion

Gellir dod o hyd i daflen CIG (pdf) ynglyn â gwneud cwynion trwy glicio yma am enghreifftiau o ymarfer da

Mynediad at ragor o wybodaeth

I gael mynediad at wybodaeth am ofal iechyd yng Ngogledd Cymru yn cynnwys deintyddion, meddygon ysbytai a.y.b. ewch iClick here for examples of good practice.

Access to more information

To access information on health care in North Wales including dentists, doctors, hospitals etc. go to: Cysylltiadau Cyfeiriadur CIG . hwn yn mynd â chi i safle ardderchog gyda digonedd o wybodaeth arall os ydych yn dymuno archwilio ymhellach. Bydd y cysylltiadau isod yn rhoi rhestr o fanylion cyswllt o fewn eich ardal awdurdod lleol.

The following links will provide you with lists of contact details within your local authority area.

Ymddiriedolaeth Conwy a Sir Ddinbych

Byrddau

Ymddiriedolaeth Wrecsam a Sir y Fflint

Byrddau

 

Ymddiriedolaeth Ynys Môn a Gwynedd

Byrddau

Am y tro cyntaf mae gan Gymru ei Ombwdsman ei hun sy’n cyfuno'r cyfrifoldeb am holl Wasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru yn cynnwys Tai Cymdeithasol a chwynion ynglyn â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ( cymdeithasau tai) Cliciwch ar y pwynt cyswllt uchod neu e-bost ask@ombudsman.org.uk