Addysg yng Ngogledd Cymru
Yn yr adran yma cewch ffynonellau gwybodaeth ynglyn â gweithdrefnau a deddfwriaeth am:
- materion hiliaeth oddi fewn i’r system addysg
- materion cyffredinol oddi fewn i’r system addysg
Hiliaeth
Dylai pob sefydliad addysgiadol weithredu i herio ac atal hiliaeth
Dylai pob sefydliad addysgiadol ddilyn côd ymarfer. Cynlluniwyd y côd i gynhorthwyo Awdurdodau Addysg Lleol (AAL) llywodraethwyr, ysgolion, colegau a phrifysgolion i sicrhau y darperir addysg heb wahaniaethu yn unol â Deddf Cydraddoldeb Hiliol, 1976.
Sut mae’r system addysg yn gweithio a phwy sydd â’r cyfrifoldeb?
Mae’n rhaid i bob ysgol gael polisi gwrth bwlio sy’n arddangos sut mae’n ymdrin ag unrhyw achos o fwlio. Fel bo’r angen, dylech ddilyn y weithdrefn gwyno leol. Gall hyn olygu gwneud cwyn ysgrifenedig i’r pennaeth, cadeirydd y llywodraethwyr a’r awdurdod addysg lleol, yn y drefn yna.
Cyrff Llywodraethol Ysgolion
Mae gan bob ysgol sy’n derbyn arian cyhoeddus gorff llywodraethol. Mae’r rhain yn cynnwys cynrychiolwyr rhieni, y pennaeth, athrawon gwasanaethol, llywodraethwyr a apwyntiwyd gan yr awdurdod addysg lleol ac aelodau'r gymuned leol. Mae'r rhain yn gyfrifol am wneud y prif benderfyniadau polisi oddi fewn i’r ysgol yn cynnwys:
- Materion academaidd
- Disgyblaeth ysgol
- Apwyntio a diswyddo staff
- Trwsio a chynnal a chadw adeiladau’r ysgol
- Mynediad ar gyfer rhai mathau o ysgolion
Maent hefyd yn gyfrifol am weithredu awgrymiadau adroddiadau arolwg ac mae gofyn iddynt sicrhau bod yr adroddiadau a’u cynlluniau gweithredu ar gael i’r rhieni.
LCyfrifoldeb Awdurdod Addysg Lleol (AAL)
Gellir rhannu dyletswyddau'r AAL tuag at ysgolion i bum adran:
- Strategaeth rheoli
- Grantiau penodol
- Anghenion addysg arbennig
- Gwella ysgolion
- Mynediad at addysg
Ysgrifennydd Gwladol.
Gallwch hefyd wneud cwyn i’r Ysgrifennydd Gwladol. Os credir bod corff llywodraethol neu AAL wedi methu cyflawni dyletswydd statudol neu wedi gweithredu yn afresymol yn yr ystyr cyfreithiol manwl, sy’n golygu mewn ffordd na fuasai unrhyw gorff tebyg yn gweithredu, yna gall yr Ysgrifennydd Gwladol ymyrryd.
Manylion cyswllt
Ar gyfer manylion cyswllt yr AAL priodol yng ngogledd Cymru cliciwch ar y cysylltiadau isod os gwelwch yn dda
Mae nifer o safleoedd defnyddiol eraill. Gellir dod o hyd i rai ohonynt trwy glicio ar