North Wales Race Equality Network - Criminal Justice
Ffynonellau Cymorth - Cyfiawnder Troseddol - Yr Heddlu

Heddlu Gogledd Cymru

Mae Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru yn cynnwys chwe sir gogledd Cymru (Gwynedd, Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) gyda chyfanswm poblogaeth o oddeutu 657,000 o bobl.

Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru yw un o’r 43 awdurdod heddlu yn Lloegr a Chymru sy’n arolygu gwaith ei heddlu lleol. Mae’n gorff annibynnol sy’n cynnwys pobl leol. Ynghyd â’r Ysgrifennydd Gwladol a Phrif Swyddogion yr Heddlu, mae’n gyfrifol am reoli plismona yng ngogledd Cymru.

Mae tair ardal diriogaethol adrannol yng ngogledd Cymru. Mae'r rhain yn atebol i Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru.

Mae gan y rhanbarthau hyn eu gwefan eu hunain sy’n cynnwys gwybodaeth a chyngor am weithgaredd yr heddlu yn yr ardal a wasanaethir ganddynt mae gan bob rhanbarth ei Swyddog Amrywiaeth, gallwch ddewis eich heddlu lleol trwy glicio ar dewis rhanbarth a dewis eich rhabarth.

Wrth glicio ar y cyswllt canlynol gallwch ddarganfod eich Rheolwr Rhanbarth Cymunedol

  • Basdata Rheolwr Rhanbarth Cymunedol

Bydd hwn yn rhoi enw eich rheolwr rhanbarth cymunedol i chi, rhif ffôn symudol a manylion ebost. Os nad ydynt ar gael yn syth gallwch adael neges. Os nad yw RRC ar gael a’ch bod angen siarad gyda swyddog o’r Heddlu mewn perthynas â mater nad yw yn un brys gallwch ddefnyddio y rhifau canlynol:

Ar gyfer holl alwadau nad ydynt yn rhai brys deialwch: 0845 6071002

Mewn argyfwng deialwch 999